Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar
28/02/2018 i'w hateb ar 07/03/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Nick Ramsay Mynwy 1OAQ51856
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gategoreiddio ysgolion yn Sir Fynwy?
David Melding Canol De Cymru
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu myfyrwyr o dramor i brifysgolion Cymru?
Bethan Sayed Gorllewin De Cymru
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu system addysg sy'n adlewyrchu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Russell George Sir Drefaldwyn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant gwella addysg i ysgolion?
Gareth Bennett Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg gwleidyddol a dinasyddiaeth mewn ysgolion yng Nghymru?
Jane Hutt Bro Morgannwg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ariannu ysgolion ym Mro Morgannwg?
Andrew R.T. Davies Canol De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg gynradd? TYNNWYD YN OL
Simon Thomas Canolbarth a Gorllewin Cymru
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â darparu llaeth am ddim mewn ysgolion?
Mark Isherwood Gogledd Cymru
Pa gefnogaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei darparu i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol sydd eisiau astudio bagloriaeth Cymru?
Mick Antoniw Pontypridd
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael am y gweithredu diwydiannol presennol yn y sector prifysgolion yng Nghymru?
Rhun ap Iorwerth Ynys Môn
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau cyngor gyrfaoedd?
Lynne Neagle Torfaen
Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol ar gyfer plant Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru?
Paul Davies Preseli Sir Benfro
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi lles plant mewn ysgolion yng Nghymru?
Sian Gwenllian Arfon
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am werth addysg perthnasoedd iach yn ysgolion Cymru?
Hefin David Caerffili
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bwysigrwydd technoleg a sgiliau digidol yn y cwricwlwm?
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Rhianon Passmore Islwyn
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sylwadau Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar fasnachfraint rheilffyrdd bresennol Great Western? TYNNWYD YN OL
Caroline Jones Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru?
Janet Finch-Saunders Aberconwy
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith datblygu ar yr A55 yng ngogledd Cymru?
Paul Davies Preseli Sir Benfro
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi Sir Benfro?
Darren Millar Gorllewin Clwyd
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau bysiau ledled Cymru?
Mick Antoniw Pontypridd
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu'r depo gwasanaethu arfaethedig i Fetro De Cymru yn Ffynnon Taf?
Paul Davies Preseli Sir Benfro
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r seilwaith trafnidiaeth yn Sir Benfro?
Mohammad Asghar Dwyrain De Cymru
Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n cynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Dwyrain De Cymru yn ystod y pumed Cynulliad? TYNNWYD YN OL
Mark Reckless Dwyrain De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a fydd y ddadl a'r bleidlais ar ffordd liniaru'r M4 a gyhoeddwyd mewn llythyr at Aelodau'r Cynulliad yn gyfrwymol neu'n gynghorol?
Mike Hedges Dwyrain Abertawe
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau trafnidiaeth ar gyfer dinas ranbarth bae Abertawe?
Bethan Sayed Gorllewin De Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella twristiaeth yn ne-orllewin Cymru?
Sian Gwenllian Arfon
Wedi'i gyflwyno yn Gymraeg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon?
Mandy Jones Gogledd Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddatblygu economaidd yn rhanbarth Gogledd Cymru?
Joyce Watson Canolbarth a Gorllewin Cymru
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwell gwasanaethau wi-fi ar drafnidiaeth yng Nghymru?
Adam Price Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu gwybodaeth bellach am y goblygiadau i fasnachfraint Cymru a'r Gororau o Abellio Rail Cymru yn tynnu ei gais yn ôl o'r broses gaffael?